Y Cyfri Mawr: Adar Tir Amaethyddol –creu cynefinoedd drwy’r flwyddyn

Mae’r Prosiect wedi cynnal sawl cyfrifiad ar nifer o ffermydd ger y gweundiroedd y mis Ionawr/Chwefror hwn a bu plant ysgolion cynradd y Gelli a Chleiro yn cynorthwyo i gasglu data.

Dywed Catherine Hughes, hwylusydd y Prosiect: “Er ein bod yn clywed o hyd am niferoedd o rywogaethau o adar sy’n prinhau, mae’n gyffrous i blant weld, unwaith y dechreuwch edrych yn ofalus trwy ysbienddrych ac aros yn llonydd am 30 munud, fod modd i chi weld fwy nag y credwch.

Mae’r digwyddiadau hyn, a noddir gan yr UAC eleni yn codi ymwybyddiaeth at ymdrechion ffermwyr i gynorthwyo byd natur a pha ymarferion syml gellir eu gwneud er mwyn cynorthwyo i adfer ardaloedd nythu.”

Matt Goodall yw ymgynghorydd yr Ymddiriedolaeth Gadwriaethol ar gyfer Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt. Mae’n pwysleisio’r angen i gynorthwyo’r adar trwy gydol y misoedd llwm a adwaenir fel y cyfnod llwglyd – Ionawr/Chwefror, Mawrth drwy blannu amrywiaeth o blanhigion – o bosib bresych crych a quinoa – mewn mannau addas yn y caeau er mwyn rhoi lloches a bwyd i’r adar a’r trychfilod i fwydo’r cywion. Yn ddelfrydol, mae angen cynefinoedd arnom trwy gydol y flwyddyn er mwyn cynorthwyo’n hadar i gael y dechrau gorau.

Bydd y canlyniadau’n cael eu rhoi ar ein gwefan.

Newyddion adar gan Nick Myhill

Gall yr hydref a’r gaeaf fod yr un mor bwysig â’r gwanwyn a’r haf i adar. Gellir dadlau fod Ynysoedd Prydain yn bwysig ar gyfer adar mudol y gaeaf oherwydd ein lleoliad mwyn. Mae hyn yn amlwg os byddwch yn teithio i un o ardaloedd yr aberoedd mawr tebyg i Fae Morecambe neu The Wash, lle y mae’n bosib gweld niferoedd mawr o adar rhydiol sy’n bridio ymhellach i’r gogledd. Hyd yn oed yn y mewndiroedd, mae ynysoedd Prydain yn hoff le ar gyfer rhywogaethau o’r fronfraith, tebyg i’r Coch Dan Adain a’r Socan Eira.

Mae’r drudwy yn rhywogaeth arall yr ydym yn darparu cynefin ar ei chyfer yn ystod y gaeaf a dyna pam roeddwn yn rhyfeddu fod y Gweinidog wedi gwrthod adroddiad yr Arolygwr ar fferm wynt Llandeglau. Nid fy mod yn erbyn ffermydd gwynt ond roeddwn wedi meddwl mai bwriad y broses gynllunio oedd dewis rhwng safleoedd addas ac anaddas ac mae’r safle hwn (neu arferai fod) yn un o’r tri safle clwydo mwyaf ar gyfer y drudwy yng Nghymru. Mae newidiadau fel hyn yn ein hardaloedd gwledig yn ein gadael yn dlotach o ran adar. Gellir gweld llawer o ddrudwy’r gaeaf ar ein gweundiroedd a’n glastiroedd.

Ar ein gweundiroedd, byddwn yn aml yn dod ar draws grwpiau o un o’r mathau prydferthaf o adar, y Cwtiad Aur. Gellir eu disgrifio fel rhywogaeth dwndra a addaswyd. Maent yn canfod yn union yr hyn sydd ei angen arnynt ar weundiroedd lle y mae’r rhedyn yn cael ei dorri yn yr hydref ac yn gadael cynefin o fwswgl byr, tebyg i dwndra. Rydym yn ffodus o gael sawl ardal debyg ar ein gweundiroedd sy’n rhan o’r cynllun. Dyma i chi enghraifft o reoli cynefin gan borwyr a cheidwaid gweundiroedd sydd o fudd i rywogaeth arbennig o adar. Nid yw pob cynefin sy’n cael ei reoli gan ddyn yn niweidiol felly ar gyfer adar.

Mae’r Cwtiad Aur ymhlith fy hoff adar, fel unrhyw un arall a’u gwelodd, debygwn i. Yn aml, gwelir hwy mewn heidiau cymharol fawr a phan fyddant yn esgyn drwy’r awyr maent fel petaent yn newid eu lliw o olau i dywyll wrth iddynt droi eu hediad ac arddangos eu hochrau gwaelod neu eu cefnau. Mae ganddynt hefyd alwad dyner a chlir all fod yn rhyfeddol o ddof. Yr hydref hwn, cyfrais 185 mewn haid a oedd yn gorffwys ar y ddaear ryw hanner can llath o’r fan lle yr oeddem yn gweithio er mwyn creu ‘scrapes’ bas ar gyfer adar rhydiol yr ucheldir.

Mae’r ‘scrapes’ hyn yn darparu trychfilod ar gyfer yr adar rhydiol ifanc cyn eu bod yn ddigon hen i hela drwy dyllu’r ddaear. Weithiau, bydd rhaid i gadwraeth ddarparu nid yn unig ar gyfer rhywogaethau gwahanol ond ar gyfer yr un rhywogaeth ar wahanol gyfnodau o’u cylch bywyd.

Un o driciau eraill y Cwtiad Aur yw diflannu pan fyddant yn disgyn, er enghraifft, mewn cae o rwdins sy’n cael eu tyfu ar gyfer defaid. Y tro hwn, bydd eu lliw gwyn wrth hedfan yn diflannu’n sydyn ac mae eu cefnau aur a brown yn rhoi cuddliw gwych iddynt gan eich gadael yn rhwbio’ch llygaid, yn cwestiynu a ydych yn dychmygu pethau! Felly, mae angen meysydd tebyg i dwndra ar y Cwtiad Aur er mwyn gorffwys neu dir âr yn y gaeaf ac rydym yn ffodus o gael cynefinoedd felly yn Sir Faesyfed.

Dyma’r cyfnod y bydd rhai adar rhydiol, fel y gylfinir yn dechrau dychwelyd yn araf o’r arfordir mewn tywydd teg, ond ni fydd llawer yn gwneud hynny tan fis Chwefror. Byddant yn dychwelyd i waelod y bryn os bydd y tywydd yn troi’n rhy oer iddynt ond rwyf wedi derbyn adroddiad gan un ffermwr o’r gylfinir ar ochr gweundir yn Sir Frycheiniog. Efallai ei fod yn mwynhau’r olygfa neu ei fod ar ei daith? Pwy â ŵyr?

Mewn gwrthgyferbyniad, bydd rhai adar yn aros dros y gaeaf os na fydd yn troi’n rhy oer. Enghraifft o hyn yw Clochdar y Cerrig sydd eto’n aderyn prydferth iawn ac sydd yn aml i’w weld yn yr eithin. Gwelais grŵp bychan ym mis Rhagfyr mewn eithin ger tir amaethyddol ar un o’r corstiroedd. Mae Clochdar y Cerrig yn fewnfudwr rhannol; mae rhai’n mewnfudo ac eraill yn aros. Yn gynnar yn yr hydref, mae’n ddigon cyffredin i weld gwryw â grŵp o gywion ifanc. Bydd hyn fel arfer yn digwydd wedi iddo ddechrau gofalu am y deoriad cyntaf tra bydd ei bartner yn aros yn y nyth i edrych ar ôl yr ail ddeoriad.

  • Adar
    Clochdar y Cerrig (llun gan Charles J Sharp)
  • Adar
    Drudwy (llun gan Tim Felce)
  • Adar
    Socan Eira (llun gan Teresa Reynolds)

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys