Canllaw i fwynhau’r dirwedd hon yn gyfrifol

Croeso i’r dirwedd rosdir sensitif hon ble y gallwch weld adar o bryder cadwraeth megis y gylfinir, cutiad aur, cornchwiglen, merlin, grugiar coch a’r giach. Mae’r rhosdiroedd hyn hefyd yn gartref i ysgyfarnogod brown a phlanhigion prin megis blodyn y gors, rhedynen ddyfrol a welir yn y pyllau mawn.

Rydym yn croesawu ymwelwyr hamdden a gobeithiwn y mwynhewch y tirwedd hyfryd yma. Ond, byddwch yn ymwybodol bod aflonyddwch yn lleihau llwyddiant nythu a rydym felly yn gofyn i ymwelwyr i ymddwyn yn gyfrifol a dilyn y canllawiau hyn. Oherwydd mae nifer o rywogaethau adar yn dirywio’n gyflym yng Nghymru.

Cysylltwch a ni

Croesawn bob syniad da ynglyn a sut i ddiogelu a gwella’r dirwedd hon felly cysylltwch a ni os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych awgrymiadau
drwy @WelshUplands ar Twitter neu drwy ein gwefan https://powysmoorlands.cymru/.

Os gwelwch rywogaeth sy’n arbennig o brin byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gellir hefyd ychwanegu delweddau ar ein cyfrif Instagram @powysmoorlandpartnership

A wyddoch chi?

Mae'r rhosdir grug hon yn cynnwys y grugiar goch sydd a'r crynodiad uchaf ond un yng nghymru gyfan.

Mae rhosdir, gyda’i lysdyfiant o rug, glaswelltau, aeron a mwsoglau, yn gynefin prin fyd-eang. Mae tri chwarter o rhostir grug y byd i’w gael yn y D.U ac mae rhai yn amcangyfrif bod Cymru wedi colli 50% o’r cynefin hwn ers y 1950au, felly mae dyletswydd arnom i edrych ar ei ol yn ofalus. Mae’r rhosdir hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth weithredu ar newid yn yr hinsawdd drwy gloi’r carbon yn y priddoedd mawn. Hefyd caiff dwr glaw ei storio i’w ryddhau’n araf.

A wyddoch chi?

LLeolir dross 300,000 tunnell o garbon o dan y priddoedd hyn. mae hyn yn gyfwerth a'r allyriadau co2 blynyddol 65,000 o geir.

O ganlyniad i brinder a phwysigrwydd y rhosdir hwn, caiff ei ddosbarthu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Safle o Ddiddorbed Gwyddonol Arbennig (SDGA). Mae’r CNC, perchnogion y tir a phorthwyr yn cydweithio i redeg y rhostir.

Egluro'r Mynediad

O dan y Ddeddf Cefn Gwlad ac Hawliau Tramwy, mae gan y cyhoedd hawl mynediad i’r tir cyffredin yma (Mynediad Tir). Felly, mae’r tir i ffwrdd lwybrau cerdded/llywbrau ceffylau/cilffyrdd sy’n agored i bob traffig ar gael i chi gerdded neu redeg drosto. Pob lwc i chi weld grugiar neu ysgyfarnog! Fodd bynnag, mae yna eithriadau pwysig i hyn.

Pobl

Mae’r hawl i gerdded ar y tir mynediad yn cael ei osod yn ol am 28 diwrnod pob blwyddyn. Mae hyn er mwyn gwarchod yr adar prin yn ystod y tymor nythu. Pob blwyddyn rydym yn cyflwyno rhestr o’r dyddiadau ar arwyddion a gynhyrchir gan CNC gan mai hwn yw’r corff llywodraethol sy’n goruchwylio’r gwaharddiad mynediad hwn. Mae’r dyddiau cyfyngedig fel arfer yn ystod dyddiau’r wythnos ym misoedd Mai/Mehefin ac ambell i ddiwrnod ar y penthwythnos. Cysylltwch a CNC am fwy o wybodaeth ar 0300 065 3000.

Cwn

Er mwyn diogelu’r holl adar sy’n nythu ar y ddaear, cyfyngir pobl a chwn o’r Tir Mynediad. Mae hyn drwy’r flwyddyn. Mae bob tir sydd wedi ei orchuddio a grug wedi ei gwmpasu gan y cyfyngiad hwn. Cysylltwch a CNC am fwy o wybodaeth ar 0300 065 3000.

A wyddoch chi?

Mae yna dros 100 o ysgyfarnogod a mwy na 60 o rywogaethau adar yn yr ardal yma.

Hawliau Tramwy

Mae cyfyngiadau mynediad yn berthnasol i bobl neu gwn ar hawliau tramwy cyhoeddus neu ar lwybrau eraill gyda mynediad cyhoeddus a ganiateir. Mewn geiriau eraill, mae pethau fel llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau wedi eu heithrio rhag cyfyngiadau o’r fath. Mae’r rhain wedi’u marcio ar y mapiau a welwch ar y ddaear. Fodd bynnag, mae yna reol gyffredinol y bod raid i ymwelwyr (ar lwybrau ac ar  Tir Mynediad)  gadw eu cwn ar dennyn byr (dim mwy na 2 metr) rhwng Mawrth y 1af a Gorffennaf y 31ain a bob amser ger da byw.

Pobl a chwn: os oes gennych unrhyw amheuaeth, cadwch i’r llwybrau a chadwch eich cwn ar dennyn a gofynnwch i unrhyw un o relowyr y rhosdir am arweiniad pellach. Gwnewch yn siwr nad yw eich ci yn berygl nac yn niwsans i anifeiliaid fferm, ceffylau, bywyd gwyllt neu phobl eraill.

DS: Nid yw’r rhai gyda hawliau pori wedi eu heithrio o’r cyfyngiadau a nodir uchod, oni bai eu bod yn casglu defaid.

Mynediad Marchogaeth

Mae yna nifer o lwybrau ceffylau i chi eu mwynhau. Gwiriwch y mapiau i sicrhau eich bod yn defnyddio’r llwybrau hyn, gan ni chaniateir marchogaeth ar y tir nad yw wedi ei farcio.

Nid oes gan y rhai sydd a hawliau pori unrhyw hawl arbenning i farchogaeth oddi ar y llwybrau ceffylau.

Fact

Mae rhosdiroedd powys yn croesawu dros 2000 o farchogion bob blwyddyn.

Cerbydau 4x4/Beiciau Modur

Yr unig lwybrau cyfreithlon ar gyfer y math yma o gerbyd yw’r Cilffyrdd Sy’n Agored i Bob Traffig. Mae’r rhain wedi eu marcio ar Fapiau Arolwg Ordinand fel arwyddion plws gwyrdd. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a’r hawliau a ganiateir ar gyfer defnyddio’r Tir Mynediad yma, yna eglurwch hyn cyn eich ymweliad drwy alw Cyngor Powys ar 01597 827 500 neu ebost rightsofway@powys.gov.uk.

Llwybrau Eraill Gyda Mynediad Cyhoeddus

Mae’r dotiau gwyrdd ar fap A/O yn dynodi ffyrdd F. Mae yna hawliau cerdded ar droed ar hyd y llwybrau hyn.

OS NAD YDYCH YN SIWR Gwiriwch statws  eich llwybr cyn eich ymweliad gyda Cyngor Powys ar 01597 827 500 neu ebostiwch rightsofway@powys.gov.uk.

Saethu

Gall saethu gymeryd lle unrhyw amser rhwng Awst 12ed ac Ionawr 31ain. Rhoddir hysbysiadau allan i rybuddio’r cyhoedd a marcio’r ardaloedd ble mae saethu yn cymeryd lle. Fel canllaw, mae’r rhan fwyaf o’r saethu yn cymeryd lle rhwng ar Sadyrnau o ddiwedd Awst hyd at fis Tachwedd.

Gellir clywed bangiau yn ystod y tymor nythu (Ebrill i Orffennaf) fodd bynnag, dyfeisiau amddiffyn cnydau yw rhain, eu pwrpas yw atal ysglyfaethu o’r awyr.
Rydym yn cymeryd gofal i osod rhain ymhell o lwybrau ceffylau.

A wyddoch chi?

Mae ymchwil yn dangos bod rhosdiroedd sy'n cael eu rheoli ar gyfer y rugiar yn cynhyrchu 300% mwy o adar hirgoes.

Cod Cefn Gwlad

Parchwch Bobl Eraill – Ystyriwch y gymuned leol ac eraill sydd allan yn mwynhau yr tir agored.
Cofiwch adael giatiau ac eiddo fel y cawsoch chi nhw. Rhowch wybod os gwelwch anifail mewn gofid.

Diogelu’r Amgylchedd Naturiol – Peidiwch a gadael unrhyw olion o’ch ymweliad, ewch a’ch ysbwriel gartref, cadwch cwn o dan reolaeth effeithiol.

Mwynhewch – y tir agored a cadwch yn ddiogel – Cynlluniwch ymlaen, paratowch a dilynwch arwyddion lleol. Cofiwch, byddwch yn ymwybodol o geffylau, beiciau modur, beicwyr,  a cherbydau 4×4.

Er bod yr ardal yma yn Dir Mynediad Agored, mae’r PRP yn ceisio adfer rhywogaethau adar drwy amddiffyn eu cynhefin – grug, ac yna cyfyngu pobl i ddefnyddio’r llwybrau cerdded, llwybrau ceffylau a chilffyrdd.

Tanau Gwyllt:

Rydym yn llosgi’r grug mewn sypiau bach rheoledig o fis Hydref hyd at ddiwedd mis Mawrth (weithiau i ddechrau Ebrill) i helpu’r grug i adfywio er lles yr adar. Mae’r rheoli yms hefyd yn sicrhau na fydd tanau gwyllt yn digwydd.

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys