Partneriaeth Rhostir Powys

Mae Partneriaeth Rhostir Powys yn brosiect cydweithredol tair blynedd uchelgeisiol a chyffrous i wella rhannau helaeth o rosdir drwy:

Hyrwyddo bioamrywiaeth rhostir

Rheoli cynefinoedd grug

Cydbwyso hamdden y rhostir gyda adnoddau naturiol a bywyd gwyllt

Ymgysylltu a chymunedau lleol

Ariennir y prosiect hwn o’r cynllun rheoli cynaliadwy o dan Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.

 Newyddion Diweddaraf

  • bird

    Preifat: Newyddion ar adar mis Hydref. gan Nick Myhill

    21st Hydref 2019
    Y newyddion drwg yw bod llawer o rywogaethau yn dirywio yma yn Sir Faesyfed, fel y maent drwy Brydain gyfan, fel y nodir yn ardoddiad diweddaraf "State of Nature". Ond gadewch i mi geisio tynnu ychydig o bethau cadarnhaol o'm data. […] Ddarllen mwy
  • cyfrifon adar

    Y Cyfri Mawr: Adar Tir Amaethyddol –creu cynefinoedd drwy’r flwyddyn

    14th Chwefror 2019
    Mae’r Prosiect wedi cynnal sawl cyfrifiad ar nifer o ffermydd ger y gweundiroedd y mis Ionawr/Chwefror hwn a bu plant ysgolion cynradd y Gelli a Chleiro yn cynorthwyo i gasglu data. […] Ddarllen mwy
  • Tymor Bridio

    Y tymor bridio – angen atgoffa!

    14th Chwefror 2019
    Mae’r Prosiect yn paratoi pamffledyn ar y cyd â’n cydweithwyr allweddol, y ffermwyr/porwyr/Cymdeithas Ceffylau Prydain/Cerddwyr/CS Powys ac ati fel y gallwn gynorthwyo pobl i ddefnyddio’n tirweddau’n gyfrifol yn enwedig wrth i ni agosáu at y tymor bridio. Atgoffir cerddwyr cŵn ei fod yn hollbwysig cadw cŵn o dan reolaeth ac aros ar y llwybrau yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn os ydym am sicrhau llwyddiannau bridio. Mae hyn yn berthnasol i adar ac ŵyn bach sydd angen pob amddiffyniad posib y gwanwyn hwn. […] Ddarllen mwy
  • Adar

    Newyddion adar gan Nick Myhill

    14th Chwefror 2019
    Gall yr hydref a’r gaeaf fod yr un mor bwysig â’r gwanwyn a’r haf i adar. Gellir dadlau fod Ynysoedd Prydain yn bwysig ar gyfer adar mudol y gaeaf oherwydd ein lleoliad mwyn. Mae hyn yn amlwg os byddwch yn teithio i un o ardaloedd yr aberoedd mawr tebyg i Fae Morecambe neu The Wash, lle y mae’n bosib gweld niferoedd mawr o adar rhydiol sy’n bridio ymhellach i’r gogledd. Hyd yn oed yn y mewndiroedd, mae ynysoedd Prydain yn hoff le ar gyfer rhywogaethau o’r fronfraith, tebyg i’r Coch Dan Adain a’r Socan Eira. […] Ddarllen mwy
  • Ucheldiroedd Prydain

    Economeg Gweundiroedd Powys

    14th Chwefror 2019
    Mae’r hyn ddylai ucheldiroedd Prydain fod mewn 100 mlynedd yn bwnc sy’n cael ei drafod llawer ac mae gan bawb ei safbwynt. […] Ddarllen mwy
  • hebolion

    Cynnal ein hebolion Cymreig lled wyllt

    14th Chwefror 2019
    Heb farch ar y bryn am bron i wyth mlynedd a rhai o’r cesyg allan yn pori trwy’r flwyddyn, mae’r ebolion yn awr yn eu hugeiniau. […] Ddarllen mwy
“O'r holl ddadleuon ystyriwyd am sut i reoli bywyd gwyllt, efallai y pwysicaf yw bioamrywiaeth - yr amrywiaeth o'r bywyd o'n cwmpas. Am fynegiant llawn o'i botensial gwych, mae'n rhaid i'r meddwl dynol dyfu mewn awyrgylch mor amrywiol a sydd phosib. Mae amrywiaeth o bob ffurf - nid yn unig biolegol, ond diwylliedig a chymdeithasol - yn angenrheidiol i ysgogi ein meddwl ac i ffurfio pwerau ein dychymyg; mae'n ffresio ein gallu i ddarganfod atebion newydd i hen broblemau and yn arwain at lefelau uwch o greadigrwydd. Mae amrywiaeth yn meithrin ein meddyliau a'n heneidiau ac mor angenrheidiol tuag at ein lles a'r bwyd yr ydym yn ei fwyta.  Yn fyr, mae'n ein gwneud yn fwy dyniol.”
Gordon Haber
Biolegydd a Chadwraethwr

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys