Rheoli Cynefinoedd Grug

Pam?

 

I hyrwyddo tirwedd bioamrywiaeth iach

Ceir nifer o rostiroedd wedi eu gorchuddio a grug byd-bwysig yng Nghymru.

Mae’n achubiaeth i ran fwyfaf o adar prin ym Mhrydain. I gydnabod eu gwerth cynaliadwy, mae PRP mewn ardaloedd SSSIs (Sites of Special Scientific Interest) o dan gyfarwyddeb cynefinoedd yr U.E ac mae felly angen diogelwch.

Mae rheoli y grug yn allweddol tuag at adfer yr adar, ac hefyd i atal tanau gwyllt rhag dinistrio y cynefin a rhyddhau carbon deuocsid sydd wedi ei ddal yn y tir ers miloedd o flynyddoedd.
Dyna pam fod gwaith ceidwaid y rhostiroedd yn allweddol, i wethio tuag at rheolaeth integredig i’r rhostiroedd i greu mosaig o wanhanol grug, gyda’r grug byrach yn darparu bwyd maethlon (yr unig fwyd i’r grugiar) a gadael y grug mwy i’w diogelu rhag ysglyfaethwyr sy’n barod i’w ymosod ar y ddaear ac o’r awyr.

I ddatblygu rhosdir cylaniadwy a gwydn drwy fabwysiadu rheolaeth traddodiadol i osgoi fynd yn ol i prysgwydd a choetir, rydym yn ymgymryd a rhaglen cylchdroi torri a llosgi i helpu adfywio tyfiant y grug sy’n darparu amrywiaeth yn oes y grug.

Nod y PRP yw darganfod cydbwysedd ac rydym yn cymeryd cyngor arbenigol o rhostiroedd erail yn y D.U ble mae grug mewn cyflwr ffafriol.

Mae ffocws ceidwaid y rhostiroedd hefyd ar reoli y cynefin i gefnogi’r gwasanaethau ecosystemau y mae’r tir yn ei ddarparu e.e drwy adfer traciau i leihau rhediad dwr.

Fel arfer mae llysdyfiant ar y rhostiroedd hyn yn cynnwys amrywiaeth o lwyni bychain fel ling, llys, chreiglys a grug y mel ymysg rhedyn, eithin a hesg gyffredin.

Yn yr ardael gwlypach ceir glaswellt y bwla. asphodel cors, plu’r gweunydd a’r gwlithlys yn ogystal a mwsoglau yn cynnwys rhywogaethau migwyn.

Mae Partneriaeth Rhosdir Powys yn fenter cydweithredol uchelgeisiol a chyffrous sy’n ceisio gwella ardaloedd eang o rhostiroedd drwy:

Hyrwyddo bioamrywiaeth rhostiroedd

Rheoli cynefinoedd grug

Cydbwyso hamdden y rhostir gyda adnoddau naturiol a bywyd gwyllt

Ymgysylltu a chymunedau lleol

Mae’r fenter hon yn cael ei hariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy o dan raglen Cymunedau Gwledig Datblygiadau Gwledig y Llywodreath Gymreig.

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys