Ymgysylltu gyda cymunedau lleol

Pam?

Maent yn lysgenhadon pwysig, ac mae eu hangen nhw ar y daith.

Mae canoedd o blant ysgol lleol wedi cymeryd rhan yn PRP hyd yn yn hyn, yn treulio amser gyda ceidwaid a phorthwyr yn ogystal a hanesyddion i ddeall pwysigrwydd tirwedd ein rhostiroedd. Recordio adar, celfeddydau a cherddoriaeth, gweithdai lles, gwyddoniaeth dinesydd a sgiliau traddodiadol yr ucheldiroedd; dyma rai o’r gweithgareddau y mae’t fenter yn ei denu i help bobl ddeall rhai o’r herion sy’n gwynebu ein tirwedd.

Er mor wych yr ydynt, maent yn gymleth a gwael yw eu deall ond yn hynod o bwysig os yr ydym am eu gweld yn wydn i liniaru herion newid yr hinsawdd fel atal llifogydd, storio carbon mewn pridd mawnog a chreu ecosystem sy’n ffynnu i’n hadar a bywyd gwyllt.

Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein iechyd meddwl a chorfforol ac mae angen gwnued mwy i’w dathlu. Drwy weithio gyda elsen iechyd meddwl MIND mae’r fenter yn mynd a grwpiau allan i’r rhostiroedd er lles pobl na ydynt fel rheol yn mynd allan i’r wlad.

Mae’r fenter yn ymwybodol o’r pump dull llesol sydd yn gyfatebol i bump ffrwyth a llysiau bob dydd. Mae rhain yn cynnwys buddsoddi amser i wneud cysylltiadau, mynd allan a bod yn egniol, bod yn ymwybodol o’r byd o’n cwmpas, ceisio gweithgareddau newydd, a rhoi eich amser fel gwirfoddolwr mewn menter cymunedol.

Mae Partneriaeth Rhosdir Powys yn fenter cydweithredol uchelgeisiol a chyffrous sy’n ceisio gwella ardaloedd eang o rhostiroedd drwy:

Hyrwyddo bioamrywiaeth rhostiroedd

Rheoli cynefinoedd grug

Cydbwyso hamdden y rhostir gyda adnoddau naturiol a bywyd gwyllt

Ymgysylltu a chymunedau lleol

Mae’r fenter hon yn cael ei hariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy o dan raglen Cymunedau Gwledig Datblygiadau Gwledig y Llywodreath Gymreig.

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys