Y Cyfri Mawr: Adar Tir Amaethyddol –creu cynefinoedd drwy’r flwyddyn

Mae’r Prosiect wedi cynnal sawl cyfrifiad ar nifer o ffermydd ger y gweundiroedd y mis Ionawr/Chwefror hwn a bu plant ysgolion cynradd y Gelli a Chleiro yn cynorthwyo i gasglu data.

Dywed Catherine Hughes, hwylusydd y Prosiect: “Er ein bod yn clywed o hyd am niferoedd o rywogaethau o adar sy’n prinhau, mae’n gyffrous i blant weld, unwaith y dechreuwch edrych yn ofalus trwy ysbienddrych ac aros yn llonydd am 30 munud, fod modd i chi weld fwy nag y credwch.

Mae’r digwyddiadau hyn, a noddir gan yr UAC eleni yn codi ymwybyddiaeth at ymdrechion ffermwyr i gynorthwyo byd natur a pha ymarferion syml gellir eu gwneud er mwyn cynorthwyo i adfer ardaloedd nythu.”

Matt Goodall yw ymgynghorydd yr Ymddiriedolaeth Gadwriaethol ar gyfer Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt. Mae’n pwysleisio’r angen i gynorthwyo’r adar trwy gydol y misoedd llwm a adwaenir fel y cyfnod llwglyd – Ionawr/Chwefror, Mawrth drwy blannu amrywiaeth o blanhigion – o bosib bresych crych a quinoa – mewn mannau addas yn y caeau er mwyn rhoi lloches a bwyd i’r adar a’r trychfilod i fwydo’r cywion. Yn ddelfrydol, mae angen cynefinoedd arnom trwy gydol y flwyddyn er mwyn cynorthwyo’n hadar i gael y dechrau gorau.

Bydd y canlyniadau’n cael eu rhoi ar ein gwefan.

Y tymor bridio – angen atgoffa!

Mae’r Prosiect yn paratoi pamffledyn ar y cyd â’n cydweithwyr allweddol, y ffermwyr/porwyr/Cymdeithas Ceffylau Prydain/Cerddwyr/CS Powys ac ati fel y gallwn gynorthwyo pobl i ddefnyddio’n tirweddau’n gyfrifol yn enwedig wrth i ni agosáu at y tymor bridio. Atgoffir cerddwyr cŵn ei fod yn hollbwysig cadw cŵn o dan reolaeth ac aros ar y llwybrau yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn os ydym am sicrhau llwyddiannau bridio. Mae hyn yn berthnasol i adar ac ŵyn bach sydd angen pob amddiffyniad posib y gwanwyn hwn. 

Bydd Maureen Lloyd – ysgrifennydd y porwyr a Huw Lavin, un o’r ciperiaid yn darparu eu manylion cyswllt ar y pamffled fel bod gan unigolion enw cyswllt pan fyddant allan ar y gweundir.

Economeg Gweundiroedd Powys

Mae’r hyn ddylai ucheldiroedd Prydain fod mewn 100 mlynedd yn bwnc sy’n cael ei drafod llawer ac mae gan bawb ei safbwynt.

Mae’r bygythiad gweledol i’n bodolaeth yn sgil newidiadau hinsawdd ar y cyd â newidiadau sylfaenol i’r system gymhorthdal wedi Brexit yn golygu fod y sawl sy’n llunio polisïau yn canolbwyntio ar yr hyn y gall tirweddau eu gwneud er mwyn sicrhau’r lles mwyaf posib. Mae hyn yn creu tensiynau amlwg ac mae carfan sydd am hybu ‘ail-wylltio’ am weld llawer o ddefnyddiau ‘traddodiadol’ y gweundiroedd neu rostiroedd yn dod i ben.

Yn achos gweundir Powys, a all ffermio a hamdden gyd-fynd â gallu’r bryniau hyn i brosesu dŵr glaw, storio carbon, glanhau’r aer a chynnal cynefinoedd prin byd-eang a rhywogaethau adar? Yn gryno, a yw’r modd y mae’r gweundiroedd hyn yn cael eu rheoli yn gwneud y gorau o’r hyn y gall yr amgylchedd naturiol hwn ei gynnig i gymdeithas? Bydd arian cyhoeddus ond yn mynd tuag at gynnyrch cyhoeddus a hynny yn yr ystyr ehangach.

Credwn, gyda’r adnoddau a’r ffocws cywir y gellir canfod cydbwysedd synhwyrol. Y broblem wrth gwrs yw bod angen cyllid newydd er mwyn cyflawni’r deilliant hwn. Does dim i’w gael sy’n rhad ac am ddim a bydd cyllid y Llywodraeth yn dod i ben yn 2020.

Galwodd y Prosiect ar arbenigwyr Economeg ar gyfer yr amgylchedd – Economics For The Environment (EFTEC), i gymharu cyfanswm gwerth cynnyrch cyhoeddus gweundiroedd Powys â chost eu cynnal am gyfnod o dros 25 mlynedd.

Mae’r buddiannau sy’n darparu gwir refeniw (arian o gynhyrchu bwyd a saethu) yn llai na’r costau rheoli er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn. Ond, gan fod cyfanswm yr holl gynnyrch cyhoeddus hyn yn uchel byddai gofyn i gymdeithas dalu £13m neu £500k yn flynyddol er mwyn sicrhau buddiannau cyfatebol pe na bai’r gweundiroedd yno. Mae’n rhaid diogelu’r buddiannau hyn a’u cynyddu.

Fel gwarchodwyr gweundiroedd Powys rydym yn pwysleisio’n gryf yr angen ar gyfer ceidwaid gweundiroedd llawn amser i weithio â’r porwyr er mwyn rhwystro tanau gwyllt, hybu bioamrywiaeth a rhwystro rhagor o gynefinoedd grug rhag cael eu colli. Daw ymwelwyr yma am olygfeydd gwych ond mae’r rheolaeth yr ydym yn ei hariannu yn gwneud y tiroedd hyn yn rhai unigryw. Mae’r grug a’r rhywogaethau prin yn fwy gweladwy yma nag yn unrhyw le arall yng Nghymru.

Ond, mae dod â’ch ceffyl, ci, ffrind, beic modur, 4×4 i’r tir hwn yn rhad ac am ddim. Eto, nid yw rheoli’r dirwedd i wneud iddo barhau, lliniaru newid hinsawdd a chynhyrchu cynnyrch cyhoeddus yn rhad ac am ddim. Mae gagendor mawr yma. Drwy roi gwerth ar Gyfalaf Naturiol, gobaith y Prosiect yw ychwanegu ffeithiau a ffigurau er mwyn cynorthwyo i greu polisi cyhoeddus a lleihau’r gagendor cyllidebol yn araf er mwyn cynnal y gofal y mae’r tiroedd yma’n ei haeddu.

  • Ucheldiroedd Prydain

Cynnal ein hebolion Cymreig lled wyllt

Heb farch ar y bryn am bron i wyth mlynedd a rhai o’r cesyg allan yn pori trwy’r flwyddyn, mae’r ebolion yn awr yn eu hugeiniau. Dewisodd perchnogion yr ebolion hardd hyn rai ohonynt i fwrw ebolion yn 2018. Daw’r cesyg lled wyllt, adran A hyn sydd wedi eu cofrestru â Chymdeithas yr Ebolion a’r Cobiau Cymreig o Bendre (Fferm Pendre,) Castell-paen (Fferm Newhouse) a Llewetrog (Fferm Llewetrog) ac maent yn cael eu monitro gan Gymdeithas Gwellia Ebolion Graban Hill yn Llandeilo.

“Mae’r gre hon yn gaeedig i raddau helaeth, ac rydym mewn angen dybryd o stoc ifanc er mwyn parhau â’r llinellau gwaed sydd yn mynd yn ôl cenedlaethau,” meddai Lisa Lloyd, sy’n dod o deulu sydd wedi bod â chysylltiad maith â’r ebolion ym Mhendre. “Maent yn rhan annatod o’r dirwedd, y diwylliant a’r dreftadaeth ac nid oes modd eu cyfnewid am ddim arall.” Esboniodd hefyd, yn y cyfarfod diwethaf ym Mai 2018 iddynt ddewis 13 o gesyg a’u rhoi i redeg â march palomino Adran A am chwe wythnos sef Afon Carousel (Criccieth Arwr x Afan Caroline) o Stabl Afan, Llanafan. Ariannwyd hyn yn rhannol gan y Prosiect.

Tynnwyd y llun gan Kerry Hendry

Colin Thomas yw is-gadeirydd y Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig (y Gymdeithas) ac mae wedi gweithio fel ymgynghorydd â’r bridwyr sy’n pori ar Ireland Moor, sydd, yn ei farn ef yn ‘un o dirweddau mwyaf gogoneddus Cymru.’ Mae wrth ei fodd gyda’r ffaith y gallwn ddisgwyl ebolion yn y gwanwyn. Dywed:

“Mae’r merlod lled wyllt hyn sydd i’w canfod ar fryniau a chymoedd Cymru yn ddisgynyddion i geffylau Celtaidd hynafol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i dirwedd ddiwylliannol Cymru trwy’r oesoedd ac sydd heddiw yn cwmpasu ymdrech y bridwyr, yn wyneb pob anhawster, i gynnal y brid Cymreig mwyaf eiconig hwn.” 

“Roedd mynyddoedd Cymru a’r gororau yn frith o gesyg mynydd gwyllt; anifeiliaid gwydn a adawyd i edrych ar ôl eu hunain gan sicrhau mai’r mwyaf gwydn oedd yn goroesi. Arweiniodd athrawiaeth natur o ‘oroesiad y cryfaf’ at ddosbarthiad naturiol Merlod Mynydd Cymru. Maent yn effro a gwydn, yn gallu addasu’n dda, yn gryf, yn glyfar ac yn hardd dros ben.   

“Mae bryniau a mynyddoedd Cymru ymhlith y godidocaf yn y byd ac wedi esblygu i fod felly o ganlyniad i genhedloedd o fridwyr merlod a ffermwyr.” 

“Dros y cenedlaethau, mae eu tranc wedi cyd-fynd â deinameg economaidd ac amgylcheddol yr amseroedd. Mae’n arwydd o’u cryfder a’u gwroldeb a hynny er gwaethaf amrywiaeth o amgylchiadau negyddol fod bridio ebolion wedi goresgyn. Mae’r Gymdeithas yn parhau i hybu ac yn darparu grantiau premiwm yn flynyddol ar gyfer meirch mynydd a’u hebolion.”

“Mae’n angenrheidiol fod yr ebolion hyn yn bridio yn yr ardal hon er mwyn diogelu a chynnal y cyfanswm genynnol. Mae eu cyfraniad at gadwraeth, cynefinoedd a bywyd gwyllt wedi eu nodi gan ecolegwyr amlwg ac mae hefyd yn angenrheidiol ar gyfer y ffordd unigryw hon o fyw. “Rwy’n mawr obeithio y bydd bridio ebolion yn eu hamgylcheddau naturiol yn parhau i ffynnu,” ategodd Colin.

Sut beth yw rhosdir cynaliadwy?

Dyna’r cwestiwn y mae Partneriaeth Rhosdir Powys yn gobeithio darparu atebion.

Wrth gwrs mae mwy nag un model o ddefnydd tir cynaliadwy, mae pethau yn wahanol yn wahanol lefydd. Fodd bynnag, mae tri rhosdir yng nghanolbarth Cymru yn darparu’r lleoliad am fenter tair blynedd y Llywodreath Gymreig, wedi’i hariannu gan yr UE, sy’n archwilio sut i gyflawni cydbwysedd ymarferol a thymor hir rhwng natur a phobl, yn cynnwys y rhai sy’n gwneud bywoliaeth o’r rhostiroedd a’r rhai sy’n eu mwynhau drwy weithgareddau hamddenol. Dyma’r datblygiad cynaliadwy clasurol rhwng amgylchedd, economi a chymdeithas.

Mae’r fenter yn cynnwys Ireland Moor, Beacon Hill a Bal Bach, ond ei brif ffocws fydd ar gwrthdroi dirywiad yn ein rhywogaethau adar y rhostiroedd fel y grugiar, y gylfinir, y cornchwiglen a’r cwtiad aur drwy adfer eu cynefinoedd rhosdiroedd grug a chyflogi ceidwaid.
Pwrpas Cynllun Rheolaeth Canaliadwy yw i roi cymorth i prosiectau graddfa tirwedd cydweithredol sy’n gweithredu i wella gwytnwch ein hadnoddau naturiol ac ecosystemau mewn ffordd sy’n dod a buddiannau i ffermydd ac i gymunedau lleol.

Cydnabyddir cydweithio fel elfen hanfodol tuag at lwyddiant, ac mae llawer o ymdrech yn y fenter ar ddod a’r gwahanol bobl at eu gilydd i drafod a chytuno ar y ffordd orau i symud ymlaen, fel bod pawb yn elwa o’r rhostiroedd. Gwneir hyn drwy nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus ac arolygon, i gasglu gwybodaeth a barn y rhai sy’n defnyddio, yn berchen ar, ffermio, rheoli ac ymweld a’r dair rhosdir.

Pan ddaw at adfer bioamrywiaeth ar y rhostiroedd hyn, cofnodir swm enfawr o data misol i helpu perchnogion y tir i weld yn gyflym y meysydd allweddol sydd angen eu sylw. Gan weld o’r nifer o lwynogod ac adar or deulu’r fran sy’n cael eu dileu, mae rheoli ysglyfaethwyr yn flaenoriaeth allweddol. Fodd bynnag, mae cynnal  y grug gyda ymosodiadau gan eithin a rhedyn hefyd yn her fawr. Yn dilyn cyngor gan Dick Bartlett o Rhostiroedd Prydain, mae’r fenter wedi cychwyn rhoi sylw ar addasu torri rhedyn a thechnegau llosgi sydd wedi eu cynllunio i wrthbwyso effaith dwyseddau uchel adar ysglyfaethus.
Catherine Hughes yw Rheolwr y Fenter, ac mae llawer o’i hamser yn mynd at siarad gyda wahanol bobl o berchnogion, ceidwaid a phorthwyr i rai a byddiannau hamddenol a thwristiaeth.

Medd Catherine “Drwy ymgysylltu gyda phawb sydd a diddordeb, gallwn gychwyn i gytuno a 80% o beth yr hoffwn weld yn y tirwedd yn y dyfodol, ond mae’n cymeryd amser ac ymrwymiad i gael y neges drosodd. Mae’r cydweithrediad hon yn fenter newydd felly mae’n rhaid i ni barhau i gynnwys pawb a diddordeb a chadw momentwm a chryfhau’r stori and yn fwy pwysig, dangos beth fydd y canlyniadau drwy adferiad ar y tir. Mae ymgysylltu a mwy o gefarthrebu yn allweddol. Mae ymweliadau gan ysgolion yn bositif iawn, yn enwedig pan mae’r plant yn  frwdfrydig ac yn gally gofyn cwetiynau am eu hardal lleol. Wrth gael y porthwyr a’r ceidwaid i gynnal yr ymweliadau, ein nod yw darganfod atebion yn ein tirwedd hanesyddol a phwysig. Mae’r plant yn amlwg yn mwynhau cael esboniadau o’u gweithgareddau dyddiol gan y porthwyr a’r ceidwaid. Ni ellir ei ddysgu yn y dosbarth. Gallai hefyd ysbrydoli’r plant i feddwl am yrfa yng nghefn gwlad”.

Ein nod ydy cael 500 o blant lleol ar y rhostiroedd dros y tair blynedd a datblygu ffyrdd newydd drwy nifer o wyddoniaeth dinesydd, celfyddydau, cerddoriaeth a.y.y.b i gyfleu harddwch ein tirwedd ac i’w cael i helpu ni i ddathlu eu pwysigrwydd. Rydym angen plant i deimlo perchnogaeth amdanynt, ac hyd yma mae wedi bod yn ardderchog, ac mae’r negesau gan y plant yn y gweithgareddau yma yn cael eu lledeunu i gunilleidfa eang. Mae hanes y rhostiroedd yn un cymleth, gyda nifer o ddyheadau ond rydym yn ymgysylltu gyda cyn gymaint o randdeiliad a phosib i weld os allwn gynyddu bioamrywiaeth a chreu swyddi o ansawdd i wella economi’r cefn gwlad ac yn y broses adeiladu gwydnwch i’n rhostiroedd Cymreig”.

  • sustainability

Yn ychwanegol, mae’r fenter yn casglu data o’r rhostiroedd eu hunain. Mae gwerthusiad cyfalaf naturiol gwaelodlin wedi ei gynnal. Mae ychydif o wyddoniaeth dinesydd hefyd yn cymeryd lle, gyda cwadrantiau wedi eu marcio i alluogi mesuriadau o ganran rhywogaethau planhigion, ac i alluogi mesur uchder llysdyfiant  dwywaith y flwyddyn. Hefyd mae lluniau wedi eu tynnu. Bydd y dulliau hyn yn galluogi mesur y cynnydd maes o law.

Mae perchennog Ireland Moor, Will Duff-Gordon, a diddordeb arbennig mewn adfer peth saethu grugiar ar rosdiroedd Powys. Mae Will wedi gweld dirywiad cyson yn iechyd y rhostiroedd yma yn ystod ei fywyd a phenderfynodd ar newid hyn. Er mwyn gwneud hyn, roedd hi’n gwneud synwyr i sicrhau cefnogaeth llywodreathol, yna cychwyn menter uchelgeisiol a fyddai’n ysgogi buddsoddiadau mewn 20,000 o aceri o rosdiroedd Powys.

“Drwy nifer o gyfarfodydd a sgyrsiau gobeithiwn greu ymwybyddiaeth gwell o fuddion cyhoeddus a berfformiwyd gan gynefinoedd y rhosdiroedd. Y nod yw y gall niferoedd eu mwynhau ond o fewn y ffiniau o beth sydd o les i’r tir a’r rhywogaethau prin. Mae angen i’r cyhoedd, ffermwyr a pherchnogion y tir helpu’r tir i fod yn fwy gwydn i’r cynydd mewn defnydd cyhoeddus, a darparu cyllid i geidwaid llawn-amser. Credwn ei bod yn bosib cyflawni hyn gyda tim rhagorol o geidwaid, cynghorwyr, ffermwyr hwyluswyr lleol. Mae’r Llywodreath Gymreig wedi bod yn gydweithwyr ardderchog hyd yn hyn a teimlwn ddyletswydd cryf i dalu’n ol ar eu ffydd a phrofi bod cyflogi ceidwaid rhostiroedd yn allweddol i gadw a gwella rhosdiroedd bendigedig canolbarth Cymru”.

Mae’r Ymddiriedolaeth Rhedyn yn falch o gymeryd rhan gyda’r Bartneriaeth. Rydym yn darparu hyfforddiant i’r fenter, rydym hefyd yn darparu peth gefnogaeth gweinyddol i Catherine Hughes i’w helpu hi ddod a’r elfennau gwahanol at eu gilydd.
Hyd yn hyn rydym wedi cyrsiau ar Rheoli Integredig a Rheoli Rhedyn, wedi galluogi cyfnewid ceidwaid rhwng Powys ac Sir Aberde, ac roeddem yn gallu trefnu ymweliad ymgynghorol gan Dick Bartlett o’r Rhostiroedd Prydeinig Cyf.

Mae gennym hefyd ddigwyddiad llosgi arfer orau wedi’ i’w gynllunio am yr hydref a fwy i ddod flwyddyn nesaf. Mae gan ein digwyddiadau elfennau theori ac ymarferol iddynt ac maent wedi eu mynychu yn dda gyda llawer o drafod, rhanu syniadau ac adborth cadarnhaol.

  • sustainability

Yn niwrnod reholi rhedyn, roeddem yn gallu galw ar arbenigedd Llywydd Yr Ymddiriedolaeth Grug, Rob Marras Agronomydd Jonathan Harrington a Dwr Cymru, yn ogystal a chwmniau sy’n darparu offer rheoli rhedyn ar gyfer arddangosiadau ymarferol ar Beacon Hill.

Mae David Thomas yn rhedeg Beacon Hill i’r perchnogion Crown Estates. Ar un tro roedd Beacon Hill yn rosdir grugiar pwysig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn denu llawer o bobl ar draws yr D.U a thu hwnt. Cewch weld weddillion porthdy hela oes Victoria ar ochr y bryn heddiw ac roedd hyd yn oed orsaf tren yno i heidio gwesteion i fyny i’r rhosdir. Mae David wedi bod yn gweithio tuag at adfer y rhedyn ers 2014 ac mae’n gweithio’n agos gyda’r porthwyr ar y comin, i gyflawni cydbwysedd rhwng y grug, pori a’r rhedyn. Mae David yn gweld gwelliannau yn barod gyda mwy o rugiar coch i’w gweld yn ogystal ac adar eraill ond mae her yr ysglyfaethwyr yn amlwg. “Bydd angen fwy o adnoddau i ddarganfod cydbwysedd” medda David, “ac mwy o gydweithio gan bawb a diddordeb. Gan fod ein cyfnod llosgi bythefnos yn fyrach yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban, mae llawer o bethau yn ein herbyn, felly mae cydweithio gyda WG a NRW yn hanfodol”.

Bydd ein digwyddiad hydref ar Rosdir Llanthony sy’n eiddo i Arwyn Davies a saith o bartneriaid- oll o gefndir meddygol. Archebwyd bron i ugain mlynedd yn ol, mae diddordeb Arwyn a’i bartneriaid yn deilio o’u cariad am y rhosdir yma, gyda’i ddigonedd o grug a’r golygfeydd ysblennydd ar draws Bannau Brycheiniog a thu hwnt.

“Dros y blynyddoedd reoli Bal Bach mae rhedyn hun wedi dod yn fwy amlwg ac wedi effeithio bywyd adar. Rydym am gadw’r egni i fyny ac rydym yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth sy’n helpu ni reoli’r rhosdir drwy gylchdroi llosgi a toriadau yn ogystal a chadw llygaid ar ysglyfaethwyr. Rydym wrth ein boddau ar y rhosdir ym misoedd Awst a Medi. Digwyddiad cymdeithasol ydyw, gyda saethu grugiar a phicnic”.

Nid yw’r dair blynedd yn amser hir yng nghydestyn rheoli rhosdir. Bydd angen mwy o amser i’w gweld yn cynnig cymysged o ddefnyddiau cynaliadwy, ond ma’e ddechreuad pwysig sy’n galluogi cynnydd. Fel mae’r D.U yn edrych tuaf at ddyfodol tu allan i’r Polisi Amaethyddol Gyffredin, mae’r Bartneriaeth yn profi’r cydbwysedd cyfalaf naturiol sy’n gyffredin yn meddwl llywodreathol ar hyn o bryd. Dylid eu hymdrechion nawr eu helpu tuag at y polisi cefn gwlad sydd am gymeryd lle’r cefnogaeth fferm sy’m bodoli nawr a’r sustem datblygu cefn gwlad.

Hanes Hela Grugiar

Hanes byr o hela’r grugiar 1900-1960au

Fel y nodwyd gan y graffiau isod, o 1900 i ddiwedd yr ail ryfel byd, roedd nifer helaeth o’r grugiar ym Mhowys. Er enghraifft, roedd cymaint o’r grugiar ar Beacon Hill fel y creuwyd porthdy hela a gorsaf tren i alluogi pobl o Lundain mwynhau’r hela. Mae iddi ran o grug a elwir yn “Millionaire’s Mile” fel teyrnged i’r hela grugiar yn yr ardal hon.

1960au – 1990au

Ar ol y rhyfel , collwyd llawer o grug Cymreig oherwydd planu coed conwydd ac ymddangosiad y Polisi Amaethyddol Cyffredin a fu’n talu ffermwyr yn ol nifer y stoc. Cynnyddwyd niferoedd ysglyfaethwyr tuag at ddiwedd y cyfnod hwn a daeth adar a oedd yn bwydo ar y grugiar fel y bwncath a boda tinwyn yn rywogaethau gwarchodedig yn y 1980au cynnar.

Erbyn 1990, Ireland Moor a Gladestry oedd yr ardaeloedd gorau am y grugiar, ond roedd nifer o’r adar a saethwyd a nifer o rosdireodd gyda ceidwaid wedi gostwng yn sydyn. Dim ond deg rhostir gyda ceidwad oedd yng Nghymru ym 1990, a dim ond 640 o adar a saethwyd yr haf honno.

2010 – presennol

Erbyn 2010 nid oedd yr un rosdir yng Nghymru gyda ceidwad llawn amser.

Daeth catalydd am newid yn 2015 pan fu Cronfa Natur y Llywodraeth Gymreig yn ariannu chwistrellu hadau ar hyd naw rhosdir, arweiniodd hyn at geidwaid yn cael eu cyflogi i ddod a’u harbenigedd rheoli i’r ardaloedd yma a oedd wedi eu hesgeuluso.

Diolch i gyfuniad o gymorth Llywodraethol a buddsoddiadau preifat mae yna bump ceidwad grugiar llawn amser ym Mhowys.

Targedau am y dyfodol

Fel mae’r graff Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gem a bywyd Gwyllt isod yn dangos, mae niferoedd y rugiar goch yn ngogledd Lloegr wedi cynyddu’n galonogol ers 1990. Nid yw hyn yn wir am Gymru eto. Er mai nid cyflawni niferoedd gogledd Lloegr yw’r nod, rydym yn benderfynol o greu gwarged cynaliadwy o niferoedd i’n galluogi i gefnogi hela’r aderyn yma sy’n bwysig yn nhermau economaidd. Bydd angen rheoli’r tir ac ysglyfaethwyr mewn modd sensitif, gyda phwyslais ar gynaliawdwyedd i bopeth – yn cynnwys fflora, ffawna, dynol a chymdeithasol.

Cyfrif y gwanwyn

Diolch i waith caled ceidwaid y rhostiroedd dros y blynyddoedd, mae’r nifer diweddaraf yn dangos bod mwy o barau bridio o’r grugiar y gwanwyn yma nag sydd wedi bod ers y 1970au.

Yr ardaloedd a gyfrifiwyd yw uwchben Castell Paen (Ireland Moor) yn ogystal a Gladestry, Gwaunceste a Beacon Hills.

Er hynny, roedd y canran o’r grugiar a fu farw yn ystod y gaeaf oherwydd ysglyfaethwyr ac achosion naturiol dros 40% ar draws rhostiroedd Sir Faesyfed, y nod yw 30%.

Mae’r siart yma yn dangos niferoedd o’r grugiar fesul cilomedr sgwar (mesul 100 hectar) a mynegai o’r cynydd yng ngrugiar y gwanwyn ers 1994.

Cadw mewn cysylltiad, cyfranogwch.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y 12 mis nesaf. Os hoffech gyfranogi neu fod gennych rai syniadau, cysylltwch â Catherine ar urmyc.sdnalroomsywop@tcatnoc

Partneriath Rhostir Powys