Pam?
I adfer harddwch, bioamrywiaeth a photensial economaidd unigryw Cymru, er gwaethaf dirywiad cynefin ucheldir, cyn y gwneir niwed anadferadwy.
Mae’n adnabyddus fod ucheldiroedd Cymru yn dioddeff – yn fwy na rhannau eraill o’r D.U – mae dirywiad difrifol mewn niferoedd o adar nyth-daear a chynefinoedd grug.
Yr achod tebygol yw cyfuniad o dwysau amaethyddol, coedwigo helaeth, tir wedi’i adael, draenio a rhoi’r gorau i reoli ysglyfaethwyr.
Drwy nifer o arferion rheoli rhostiroedd a sgyrsiau newydd gyda’r gymuned leol, y nod yw adfer y dirywiad drwy gydweithio i helpu gynyddu llywddiant bridio y grugiar ac adar hirgoes, a mae llawer ononynt ar y rhestr goch pryder cadwraeth.
Rydym wedi cychwyn cynllun amddiffyn adar hirgoes drwy roi llawer o grafiadau bas i helpu oroesi’r adar bregus hyn.
Os yr ydym am edrych i adfer iechyd ein tirwedd, bydd rhaid i ni weithio a raddfa’r tirwedd, sy’n golygu creu cylch mwy o gwmpas ardal fwy mewn modd cysylltiedig. Ni fedrwn weithio ar ben ein hunain a dyna pham mae’r fenter hon yn siarad a’r ffermwyr lleol fel bod gan yr adar hirgoes gwell gyfle i oroesi pe bai amgylchiadau tu hwnt i’r rhosdir yn ffafriol iddynt.
Y rugiar goch yw’r dangosydd ar ein rhosdiroedd grug, nhw yw’r unig adar gwyllt brodorol sy’n byw yno 12 mis y flwyddyn.
Dim yn unig y gallwn adfer amgylchiadau y rhostiroedd i wella cyfleuon bridio i’r adar a bywyd gwyllt arall, ond mae’n bosib hefyd darparu gwasanaethau ecosystem eraill yn cynnwys dilyniant carbon, cadw dwr a lliniaru risg llifogydd.
Mae Partneriaeth Rhosdir Powys yn fenter cydweithredol uchelgeisiol a chyffrous sy’n ceisio gwella ardaloedd eang o rhostiroedd drwy:
Hyrwyddo bioamrywiaeth rhostiroedd
Rheoli cynefinoedd grug
Cydbwyso hamdden y rhostir gyda adnoddau naturiol a bywyd gwyllt
Ymgysylltu a chymunedau lleol
Mae’r fenter hon yn cael ei hariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy o dan raglen Cymunedau Gwledig Datblygiadau Gwledig y Llywodreath Gymreig.