Hanes byr o hela’r grugiar 1900-1960au
Fel y nodwyd gan y graffiau isod, o 1900 i ddiwedd yr ail ryfel byd, roedd nifer helaeth o’r grugiar ym Mhowys. Er enghraifft, roedd cymaint o’r grugiar ar Beacon Hill fel y creuwyd porthdy hela a gorsaf tren i alluogi pobl o Lundain mwynhau’r hela. Mae iddi ran o grug a elwir yn “Millionaire’s Mile” fel teyrnged i’r hela grugiar yn yr ardal hon.
1960au – 1990au
Ar ol y rhyfel , collwyd llawer o grug Cymreig oherwydd planu coed conwydd ac ymddangosiad y Polisi Amaethyddol Cyffredin a fu’n talu ffermwyr yn ol nifer y stoc. Cynnyddwyd niferoedd ysglyfaethwyr tuag at ddiwedd y cyfnod hwn a daeth adar a oedd yn bwydo ar y grugiar fel y bwncath a boda tinwyn yn rywogaethau gwarchodedig yn y 1980au cynnar.
Erbyn 1990, Ireland Moor a Gladestry oedd yr ardaeloedd gorau am y grugiar, ond roedd nifer o’r adar a saethwyd a nifer o rosdireodd gyda ceidwaid wedi gostwng yn sydyn. Dim ond deg rhostir gyda ceidwad oedd yng Nghymru ym 1990, a dim ond 640 o adar a saethwyd yr haf honno.
2010 – presennol
Erbyn 2010 nid oedd yr un rosdir yng Nghymru gyda ceidwad llawn amser.
Daeth catalydd am newid yn 2015 pan fu Cronfa Natur y Llywodraeth Gymreig yn ariannu chwistrellu hadau ar hyd naw rhosdir, arweiniodd hyn at geidwaid yn cael eu cyflogi i ddod a’u harbenigedd rheoli i’r ardaloedd yma a oedd wedi eu hesgeuluso.
Diolch i gyfuniad o gymorth Llywodraethol a buddsoddiadau preifat mae yna bump ceidwad grugiar llawn amser ym Mhowys.
Targedau am y dyfodol
Fel mae’r graff Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gem a bywyd Gwyllt isod yn dangos, mae niferoedd y rugiar goch yn ngogledd Lloegr wedi cynyddu’n galonogol ers 1990. Nid yw hyn yn wir am Gymru eto. Er mai nid cyflawni niferoedd gogledd Lloegr yw’r nod, rydym yn benderfynol o greu gwarged cynaliadwy o niferoedd i’n galluogi i gefnogi hela’r aderyn yma sy’n bwysig yn nhermau economaidd. Bydd angen rheoli’r tir ac ysglyfaethwyr mewn modd sensitif, gyda phwyslais ar gynaliawdwyedd i bopeth – yn cynnwys fflora, ffawna, dynol a chymdeithasol.
Cyfrif y gwanwyn
Diolch i waith caled ceidwaid y rhostiroedd dros y blynyddoedd, mae’r nifer diweddaraf yn dangos bod mwy o barau bridio o’r grugiar y gwanwyn yma nag sydd wedi bod ers y 1970au.
Yr ardaloedd a gyfrifiwyd yw uwchben Castell Paen (Ireland Moor) yn ogystal a Gladestry, Gwaunceste a Beacon Hills.
Er hynny, roedd y canran o’r grugiar a fu farw yn ystod y gaeaf oherwydd ysglyfaethwyr ac achosion naturiol dros 40% ar draws rhostiroedd Sir Faesyfed, y nod yw 30%.
Mae’r siart yma yn dangos niferoedd o’r grugiar fesul cilomedr sgwar (mesul 100 hectar) a mynegai o’r cynydd yng ngrugiar y gwanwyn ers 1994.