Mae’r hyn ddylai ucheldiroedd Prydain fod mewn 100 mlynedd yn bwnc sy’n cael ei drafod llawer ac mae gan bawb ei safbwynt.
Mae’r bygythiad gweledol i’n bodolaeth yn sgil newidiadau hinsawdd ar y cyd â newidiadau sylfaenol i’r system gymhorthdal wedi Brexit yn golygu fod y sawl sy’n llunio polisïau yn canolbwyntio ar yr hyn y gall tirweddau eu gwneud er mwyn sicrhau’r lles mwyaf posib. Mae hyn yn creu tensiynau amlwg ac mae carfan sydd am hybu ‘ail-wylltio’ am weld llawer o ddefnyddiau ‘traddodiadol’ y gweundiroedd neu rostiroedd yn dod i ben.
Yn achos gweundir Powys, a all ffermio a hamdden gyd-fynd â gallu’r bryniau hyn i brosesu dŵr glaw, storio carbon, glanhau’r aer a chynnal cynefinoedd prin byd-eang a rhywogaethau adar? Yn gryno, a yw’r modd y mae’r gweundiroedd hyn yn cael eu rheoli yn gwneud y gorau o’r hyn y gall yr amgylchedd naturiol hwn ei gynnig i gymdeithas? Bydd arian cyhoeddus ond yn mynd tuag at gynnyrch cyhoeddus a hynny yn yr ystyr ehangach.
Credwn, gyda’r adnoddau a’r ffocws cywir y gellir canfod cydbwysedd synhwyrol. Y broblem wrth gwrs yw bod angen cyllid newydd er mwyn cyflawni’r deilliant hwn. Does dim i’w gael sy’n rhad ac am ddim a bydd cyllid y Llywodraeth yn dod i ben yn 2020.
Galwodd y Prosiect ar arbenigwyr Economeg ar gyfer yr amgylchedd – Economics For The Environment (EFTEC), i gymharu cyfanswm gwerth cynnyrch cyhoeddus gweundiroedd Powys â chost eu cynnal am gyfnod o dros 25 mlynedd.
Mae’r buddiannau sy’n darparu gwir refeniw (arian o gynhyrchu bwyd a saethu) yn llai na’r costau rheoli er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn. Ond, gan fod cyfanswm yr holl gynnyrch cyhoeddus hyn yn uchel byddai gofyn i gymdeithas dalu £13m neu £500k yn flynyddol er mwyn sicrhau buddiannau cyfatebol pe na bai’r gweundiroedd yno. Mae’n rhaid diogelu’r buddiannau hyn a’u cynyddu.
Fel gwarchodwyr gweundiroedd Powys rydym yn pwysleisio’n gryf yr angen ar gyfer ceidwaid gweundiroedd llawn amser i weithio â’r porwyr er mwyn rhwystro tanau gwyllt, hybu bioamrywiaeth a rhwystro rhagor o gynefinoedd grug rhag cael eu colli. Daw ymwelwyr yma am olygfeydd gwych ond mae’r rheolaeth yr ydym yn ei hariannu yn gwneud y tiroedd hyn yn rhai unigryw. Mae’r grug a’r rhywogaethau prin yn fwy gweladwy yma nag yn unrhyw le arall yng Nghymru.
Ond, mae dod â’ch ceffyl, ci, ffrind, beic modur, 4×4 i’r tir hwn yn rhad ac am ddim. Eto, nid yw rheoli’r dirwedd i wneud iddo barhau, lliniaru newid hinsawdd a chynhyrchu cynnyrch cyhoeddus yn rhad ac am ddim. Mae gagendor mawr yma. Drwy roi gwerth ar Gyfalaf Naturiol, gobaith y Prosiect yw ychwanegu ffeithiau a ffigurau er mwyn cynorthwyo i greu polisi cyhoeddus a lleihau’r gagendor cyllidebol yn araf er mwyn cynnal y gofal y mae’r tiroedd yma’n ei haeddu.