Heb farch ar y bryn am bron i wyth mlynedd a rhai o’r cesyg allan yn pori trwy’r flwyddyn, mae’r ebolion yn awr yn eu hugeiniau. Dewisodd perchnogion yr ebolion hardd hyn rai ohonynt i fwrw ebolion yn 2018. Daw’r cesyg lled wyllt, adran A hyn sydd wedi eu cofrestru â Chymdeithas yr Ebolion a’r Cobiau Cymreig o Bendre (Fferm Pendre,) Castell-paen (Fferm Newhouse) a Llewetrog (Fferm Llewetrog) ac maent yn cael eu monitro gan Gymdeithas Gwellia Ebolion Graban Hill yn Llandeilo.
“Mae’r gre hon yn gaeedig i raddau helaeth, ac rydym mewn angen dybryd o stoc ifanc er mwyn parhau â’r llinellau gwaed sydd yn mynd yn ôl cenedlaethau,” meddai Lisa Lloyd, sy’n dod o deulu sydd wedi bod â chysylltiad maith â’r ebolion ym Mhendre. “Maent yn rhan annatod o’r dirwedd, y diwylliant a’r dreftadaeth ac nid oes modd eu cyfnewid am ddim arall.” Esboniodd hefyd, yn y cyfarfod diwethaf ym Mai 2018 iddynt ddewis 13 o gesyg a’u rhoi i redeg â march palomino Adran A am chwe wythnos sef Afon Carousel (Criccieth Arwr x Afan Caroline) o Stabl Afan, Llanafan. Ariannwyd hyn yn rhannol gan y Prosiect.
Tynnwyd y llun gan Kerry Hendry
Colin Thomas yw is-gadeirydd y Gymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig (y Gymdeithas) ac mae wedi gweithio fel ymgynghorydd â’r bridwyr sy’n pori ar Ireland Moor, sydd, yn ei farn ef yn ‘un o dirweddau mwyaf gogoneddus Cymru.’ Mae wrth ei fodd gyda’r ffaith y gallwn ddisgwyl ebolion yn y gwanwyn. Dywed:
“Mae’r merlod lled wyllt hyn sydd i’w canfod ar fryniau a chymoedd Cymru yn ddisgynyddion i geffylau Celtaidd hynafol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i dirwedd ddiwylliannol Cymru trwy’r oesoedd ac sydd heddiw yn cwmpasu ymdrech y bridwyr, yn wyneb pob anhawster, i gynnal y brid Cymreig mwyaf eiconig hwn.”
“Roedd mynyddoedd Cymru a’r gororau yn frith o gesyg mynydd gwyllt; anifeiliaid gwydn a adawyd i edrych ar ôl eu hunain gan sicrhau mai’r mwyaf gwydn oedd yn goroesi. Arweiniodd athrawiaeth natur o ‘oroesiad y cryfaf’ at ddosbarthiad naturiol Merlod Mynydd Cymru. Maent yn effro a gwydn, yn gallu addasu’n dda, yn gryf, yn glyfar ac yn hardd dros ben.
“Mae bryniau a mynyddoedd Cymru ymhlith y godidocaf yn y byd ac wedi esblygu i fod felly o ganlyniad i genhedloedd o fridwyr merlod a ffermwyr.”
“Dros y cenedlaethau, mae eu tranc wedi cyd-fynd â deinameg economaidd ac amgylcheddol yr amseroedd. Mae’n arwydd o’u cryfder a’u gwroldeb a hynny er gwaethaf amrywiaeth o amgylchiadau negyddol fod bridio ebolion wedi goresgyn. Mae’r Gymdeithas yn parhau i hybu ac yn darparu grantiau premiwm yn flynyddol ar gyfer meirch mynydd a’u hebolion.”
“Mae’n angenrheidiol fod yr ebolion hyn yn bridio yn yr ardal hon er mwyn diogelu a chynnal y cyfanswm genynnol. Mae eu cyfraniad at gadwraeth, cynefinoedd a bywyd gwyllt wedi eu nodi gan ecolegwyr amlwg ac mae hefyd yn angenrheidiol ar gyfer y ffordd unigryw hon o fyw. “Rwy’n mawr obeithio y bydd bridio ebolion yn eu hamgylcheddau naturiol yn parhau i ffynnu,” ategodd Colin.